Archebu Ar-Lein
Gofyn Am Wasanaeth
Erbyn hyn, gallwch ofyn ar-lein am gael eich codi neu’ch casglu o arosfannau newydd ar gyfer pob un o’n “Bysiau Gwennol”.
Cysylltu  Ni: 08708 50 51 55
Gwybodaeth am Fenter y Bysiau Gwennol
Gwasanaeth Bysiau Gwennol Wrecsam a Glannau
- Mae Gwasanaeth Bysiau Gwennol Wrecsam a Glannau Dyfrdwy yn wasanaeth drws-i-ddrws sy’n eich cludo o’ch cartref i’ch gwaith ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy neu Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.
- Mae’r gwasanaeth ar gael rhwng 05.00 a 24.00, 7 diwrnod yr wythnos. Felly, p’un a ydych yn gweithio sifftiau, yn gweithio’n rhan amser neu’n gweithio yn ystod oriau swyddfa arferol, bydd Bws Gwennol ar gael i’ch cludo yno.
- I ddefnyddio Gwasanaeth Bysiau Gwennol Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, mae angen i chi gofrestru. Gallwch wneud hynny ar-lein neu dros y ffôn.
Bws Gwennol y Theatr
- Mae Bws Gwennol y Theatr yn wasanaeth drws-i-ddrws sy’n eich cludo o’ch cartref yn Sir y Fflint i Clwyd Theatr Cymru.
- Mae’r gwasanaeth ar gael ar ôl 18.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac mae ar gael trwy’r dydd ar ddydd Sadwrn. Nid yw’r gwasanaeth ar gael ar ddydd Sul.
- I ddefnyddio Gwasanaeth Bws Gwennol y Theatr, mae angen i chi gofrestru. Gallwch wneud hynny ar-lein neu dros y ffôn.

