Archebu Ar-Lein
Gofyn Am Wasanaeth
Erbyn hyn, gallwch ofyn ar-lein am gael eich codi neu’ch casglu o arosfannau newydd ar gyfer pob un o’n “Bysiau Gwennol”.
Cysylltu  Ni: 08708 50 51 55

Mae Gwasanaeth Bysiau Gwennol Glannau Dyfrdwy wedi’i gynllunio i gludo pobl yn ôl ac ymlaen i’r gwaith yn gyflym ac yn gyfforddus, ac mae’n wasanaeth hyblyg iawn gan fod modd i chi ddewis ble a phryd yr hoffech gael eich casglu.
Mae’r gwasanaeth, sy’n cynnig cludiant yn ôl ac ymlaen i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, yn datrys y problemau sy’n gysylltiedig â mynd i’r gwaith, ac mae’n eich galluogi i gyrraedd y gwaith yn brydlon ac mewn hwyliau da. Caiff teithiau eu hamseru fel eu bod yn ateb eich gofynion chi. Felly, gallwch gael eich cludo’n ôl ac ymlaen i’r gwaith ar yr adegau sydd fwyaf cyfleus i chi.
Mae Bws Gwennol y Theatr yn wasanaeth sy’n eich galluogi i fwynhau nosweithiau yn Clwyd Theatr Cymru. Mae’r gwasanaeth yn datrys y problemau sy’n gysylltiedig â pharcio, ac mae’n rhatach na thacsi.
