Archebu Ar-Lein
Gofyn Am Wasanaeth
Erbyn hyn, gallwch ofyn ar-lein am gael eich codi neu’ch casglu o arosfannau newydd ar gyfer pob un o’n “Bysiau Gwennol”.
Cysylltu  Ni: 08708 50 51 55

Storïau am lwyddiant y Bysiau Gwennol
Canmoliaeth i wasanaeth Bws Gwennol y Theatr
Mae adborth gan drigolion Sir y Fflint sy’n defnyddio gwasanaeth Bws Gwennol y Theatr yn dangos ei fod yn adnodd gwerthfawr a phoblogaidd iawn.
Prynodd Gwasanaeth Bws Gwennol Clwyd Theatr Cymru gerbyd mawr newydd a modern dros yr haf er mwyn cludo hyd at wyth o bobl yn syth o’u cartrefi i’r theatr.
Roedd sylwadau a wnaed yn ystod arolwg diweddar yn cynnwys y canlynol: “gwasanaeth gwych – chewch chi ddim llawer am bunt y dyddiau hyn” a “defnyddiol, cyfeillgar a dibynadwy.”
Meddai Nancy Clavering sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn rheolaidd: “Gall pobl hŷn fynd i’r theatr rŵan heb orfod dibynnu ar bobl eraill. Mae’n ychwanegiad gwerthfawr o safbwynt sicrhau bod modd i bobl fyw’n annibynnol.”
Meddai Freda Williams sydd hefyd yn defnyddio’r Bws Gwennol: “Byddai’n amhosibl i mi fynd i’r theatr heb y Bws Gwennol.”
Cliciwch ar y llun i’w wneud yn fwy:
Gwasanaeth Bysiau Gwennol Wrecsam yn 1 oed!
Cynllun llwyddiannus arall yw Gwasanaeth Bysiau Gwennol Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, sydd wedi bod yn gweithredu ers bron i 12 mis. Mae’r gwasanaeth yn darparu cerbydau y mae modd i bawb gael mynediad iddynt, ac mae ar gael i weithwyr ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam sy’n byw yn ardaloedd Rhos-ddu, Borras, Garden Village a Gwaunyterfyn. Mae’r gwasanaeth hefyd yn galw yng ngorsaf drenau Wrecsam i gasglu pobl sy’n gweithio ar yr Ystâd ac sydd wedi teithio ar y trên o fannau eraill.
Mae’r gwasanaeth yn un sy’n ymateb i’r galw. Mae hynny’n golygu bod pobl a oedd yn methu gweithio ar yr Ystâd Ddiwydiannol yn y gorffennol oherwydd cysylltiadau cludiant gwael yn gallu gweithio yno erbyn hyn gan wybod bod ganddynt ffordd ddibynadwy a rhad o deithio i’r gwaith pa amser bynnag o’r dydd neu’r nos y maent yn dechrau gweithio.
Mae un daith ar y gwasanaeth hwn yn costio £1.20 neu mae tocyn wythnos yn costio £6.00 - 60c yn unig am bob siwrnai yn ystod wythnos waith pum niwrnod.
Cliciwch ar y llun i’w wneud yn fwy:


